Y FFYNONELLAU: TASG 1
Mae’r ffynhonnell hon yn SAESNEG.
Dychmygwch eich bod wedi penderfynu casglu gwybodaeth am brotestiadau gwleidyddol yng Nghymru, ac mai un elfen o’ch ymchwil yw Mudiad y Siartwyr.
I ddechrau, y cyfan rydych chi eisiau gwybod yw pwy oedd y Siartwyr. Does dim ots os nad ydych chi wedi astudio Siartiaeth o’r blaen: y nod yw gweld beth gallwch chi ei dynnu o ffynhonnell anghyfarwydd.
Dyma erthygl o bapur newydd yn 1839. Nid yng Nghymru y cafodd ei hysgrifennu. Gallai hynny eich helpu!
Lawrlwythwch y daflen waith a gweithio eich ffordd trwy’r ffynhonnell: ceisiwch gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl!

Dyma adroddiad ar Siartiaeth yng Nghymru o The London Dispatch and People's Political and Social Reformer (Llundain, Lloegr), dydd Sul, Ionawr 13, 1839; Rhifyn 122.
Mae’n cyfeirio at y rhai oedd yno, a pha fathau o bobl oedd yn cefnogi Siarter y Bobl.
Mae’n sôn am y cyfarfod a beth ddigwyddodd – ond does dim llawer o fanylion.
Mae’n dweud wrthych chi pa ieithoedd gafodd eu siarad, ac am wahanol gyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr un pwnc.
Mae’r adroddiad hwn yn sôn yn fwy manwl am yr hyn ddywedwyd yn y cyfarfod yng Nghasnewydd.
Mae’r adroddiad yn rhagweld y bydd mwy o leoliadau’n ymuno, ac yn rhestru rhai sydd eisoes wedi gwneud hynny.
Nid am Siartiaeth yn unig mae’r papur newydd yn sôn, mae hefyd yn adrodd am y Cyfreithiau Ŷd ac yn rhoi barn.
Mae’r golofn newyddion hon yn cloi â dirgelwch o’r Canolbarth nad yw’n ymwneud â Siartiaeth o gwbl.
I gael mwy o gyd-destun Mudiad y Siartwyr a llinell amser ar gyfer y protestiadau, cliciwch ar y ddolen hon: BBC REPORT > CHARTISM