CYFEIRIADAU*
Nid cyfeiriadau yn null Harvard mae mwyafrif prifysgolion y Deyrnas Unedig yn eu defnyddio ar gyfer traethodau hanes. Mae’r mwyafrif, fel Prifysgol Caerdydd, yn defnyddio dull wahanol, sef MHRA. Os bydd angen i chi ddefnyddio Harvard, mae sesiynau tiwtorial ar gael ar safle CBAC. Cliciwch ar y botwm yng nghornel dde uchaf y dudalen hon i fynd yno ac archwilio’r adnoddau! Os ydych chi am astudio hanes ar lefel gradd a/neu mae angen i chi ddefnyddio math arbennig o droednodiadau ar gyfer y gwaith cwrs hwn, mae gennym ni ymarferiad i ddangos i chi sut mae cyfeirio at lyfrau printiedig a ffynonellau y cawsoch chi hyd iddyn nhw ar-lein.
*Troednodiadau yw’r ffordd ymlaen!
Pam mae angen i mi gynnwys cyfeiriadau yn fy ngwaith?

Mae angen i chi ddweud wrth y darllenydd (a) o ble cawsoch chi eich ffeithiau (b) o ble mae eich dyfyniadau’n dod (c) pa ffynonellau ddefnyddioch chi (d) pa ddadleuon rydych wedi’u crynhoi yn eich gwaith. Os na wnewch chi hynny, gallech gael eich cyhuddo o lên-ladrad – dwyn gwaith rhywun arall. Mae hynny’n ddifrifol iawn – a bydd yn golygu eich bod yn methu. Gofalwch eich bod yn cynnwys cyfeiriadau trylwyr yn eich gwaith, a hynny yn y fformat cywir.


Mae troednodiadau’n mynd ar ddiwedd y frawddeg, ar ôl yr atalnod llawn. Os daliwch chi’r bysellau Ctrl + Alt + F i lawr gyda’i gilydd, bydd Word yn creu troednodyn yn awtomatig! #LifeHack
Os bydd rhaid i chi ddefnyddio’r system MHRA, dyma sut mae gwneud hynny:
Llyfrau:
Cyfeirir at lyfrau drwy roi enw’r awdur yn gyntaf, yna’r teitl mewn italig, yna’r (man lle cafodd ei gyhoeddi, blwyddyn ei gyhoeddi) mewn cromfachau, ac yna rhif(au) y dudalen lle ceir hyd i’r ffaith neu’r ddadl.
Dywedwch eich bod am gyfeirio at lyfr gan John Guy o’r enw Tudor England. Fe wnaethoch chi ailadrodd ffaith y cawsoch o hyd iddi ar dudalen 24. Dyma’r troednodyn i chi:
John Guy, Tudor England, (Rhydychen, 1990) t. 24.

Fe ddefnyddiais i dudalen 64 o lyfr oedd â mwy nag un awdur/golygydd. Sut mae cyfeirio at hynny?
Fel hyn:
David Patterson, Doug a Susan Willoughby, Civil Rights in the USA, 1863-1980, (Rhydychen, 2001), t. 64.